Mae lles yn flaenoriaeth i ni ym Mhlasmawr. Bwriad y dudalen hon yw rhannu gwybodaeth am ein darpariaeth lles a’ch hysbysu am y cyfleoedd a’r gefnogaeth sydd ar gael i’ch plentyn yn yr ysgol.

Cylchlythyron Lles:
Rydym yn cyhoeddi ein cylchlythyr lles unwaith bob tymor. Mae’r cylchlythyr hwn yn cynnwys  gwybodaeth ddefnyddiol, awgrymiadau a chefnogaeth i hyrwyddo llesiant ein disgyblion a’u teuluoedd. Mae pob rhifyn isod.

Cymorth Plasmawr yw ein hadnodd ar-lein sy’n darparu gwybodaeth am y cymorth llesiant sydd ar gael i ddisgyblion ym MhlasmawrGallwch ddod o hyd i’r  adnodd ar ein gwefan ysgol. 

Logo Cymorth Plasmawr

Cymorth Asiantaethau Allanol:

Padlet Nyrsio Ysgol:
Mae’r tîm Nyrsio Ysgol wedi lansio padlet newydd yn ddiweddar. Mae’r padlet yn llawn gwybodaeth am iechyd a lles i blant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr.

Padlet Niwroddatblygol:
Amrywiaeth eang o wybodaeth, cyngor a chymorth ar gyfer plant a phobl ifanc niwrowahanol, eu teuluoedd a’u gofalwyr

Botwm Becso 

Dyma ffurflen ar-lein y gall disgyblion ei defnyddio i roi gwybod i staff os ydynt yn poeni am rywbeth, angen help neu eisiau cael sgwrs.  

Botwm Becso

Hwb Ailgylchu 

Cliciwch yma i gwblhau ffurflen archebu gwisg ysgol.