Llongyfarchiadau mawr i ddisgyblion Blwyddyn 11 sydd wedi perfformio’n wych yn eu harholiadau TGAU a BTEC eleni. Er iddi fod yn flwyddyn heriol ar sawl cyfrif mae’r perfformiad eleni gyda’r gorau yn hanes yr ysgol.
Diolch i’r holl staff sydd wedi gweithio’n ddi-flino i roi pob cyfle i’r disgyblion lwyddo yn eu arholiadau TGAU a BTEC.
Mae gan bob unigolyn ei stori ei hun ac mae sawl disgybl wedi gorfod gorchfygu salwch ac anhawsterau eraill er mwyn medru sefyll yr arholiadau, da iawn chi. Hoffwn longyfarch pob disgybl ym mhlwyddyn 11 beth bynnag eu graddau a dymuno’n dda i bob un ar gyfer y bennod nesaf cyffrous yn eu bywydau.
Mae’r disgyblion canlynol wedi perfformio yn eithriadol ac wedi ennill 9 neu fwy gradd A*: Anellie Beare, Eleri Davies, Rachel Davies, Catrin John, Cadi Jones, Twm Richards, Steffan Rowlands, Rebecca Saunders, Rhiannon Spannaus, Elin Williams.
Gyda balchder yr ydym hefyd yn llongyfarch y 30% o’r flwyddyn a enillodd 5 neu fwy o raddau A*- A, a’r 87% o’r flwyddyn sydd wedi ennill 5 neu fwy o gymhwysterau A* - C. Da iawn bawb
Llongyfarchiadau mawr i holl fyfyrwyr Blwyddyn 13 ar eu llwyddiant arbennig yn eu arholiadau a’u cymwysterau Safon Uwch, BTEC a’r Fagloriaeth eleni. Mae’r canlyniadau rhagorol yn deyrnged i’w hymroddiad a’u gwaith diwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae’r mwyafrif helaeth o’r myfyrwyr a wnaeth gais am gyrsiau addysg uwch wedi eu derbyn i’r Prifysgol o’u dewis, a chanran uchel o rheiny yn Brifysgolion Grwp Russell.
Mae 12 myfyriwr wedi derbyn cyfuniad o 4 gradd A* neu A a 25% o’r flwyddyn wedi ennill cyfuniad o 3 neu fwy gradd A* neu A.
Llongyfarchiadau arbennig i’r disgyblion canlynol ar ennill cymhwysterau gwych;
3A*, 1A: Georgia Redmore, Heledd Roberts, Mair Thomas.
2A*, 2A: Manon Jenkins, Nia Walsh.
Llongyfarchiadau i Ffion Samuels, Gareth Scourfield a Branwen Thistlewood ar dderbyn y graddau angenrheidiol i astudio ym mhrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.
Dyma ein canlyniadau Lefel 3:
% A* - A: 38%
%A* - C: 86%
%A* - E: 100%
Mae fy niolch yn fawr i’r holl staff sydd wedi paratoi, cynllunio, addysgu, mentora ac asesu’r myfyrwyr trwy eu cyrsiau Safon Uwch, BTEC a’r Fagloriaeth a sydd wedi cyfrannu’n aruthrol at lwyddiant y myfyrwyr.
A brief video showing how to download school reports using Moodle;
If the report is in XML format, please download the file first and then use Microsoft Word (or equivalent) to open the file, by default it may open in a different program or not at all.